Rydym yn gweithio gyda dysgwyr sydd yn methu mynd i’r ysgol oherwydd iechyd neu amgylchiadau eithriadol.
Mae ein gwasanaeth yn darparu addysg tymor byr wedi’i theilwra i ddysgwyr wrth iddynt bontio i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth amser llawn.
Mae ein tîm yn darparu addysg dros dro i ddysgwyr nad ydynt yn gallu mynd i’r ysgol. Bydd pob dysgwr yn cael pecyn wedi ei ddatblygu i gefnogi anghenion unigolion a symud ymlaen i’r camau nesaf.
Mae athrawon a swyddogion Sgiliau a Chymorth yn gweithio ar y cyd i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i’n plant a’n pobl ifanc.
Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda:
- dysgwyr a’u teuluoedd,
- ysgolion,
- Addysg heblaw yn yr ysgol (AHY), a
- gweithwyr proffesiynol eraill yng Nghaerdydd (er enghraifft, y
- Gwasanaeth Iechyd ac asiantaethau eraill yng Nghaerdydd).

Rydym yn gweithio gyda dysgwyr i’w:
- hysgogi, eu hysbrydoli a’u meithrin,
- eu dysgu i fod yn alluog ac yn uchelgeisiol,
- ysbrydoli ymgysylltiad a chyfraniad creadigol,
- creu ymdeimlad o berthyn ac annog byw’n iach, a’u
- hysgogi i ddod yn ddinasyddion moesegol gwybodus.
Bydd dysgwyr fel arfer yn gweithio gyda dau aelod o staff i ganolbwyntio ar:
- Llythrennedd a rhifedd
- Sgiliau a chymorth.
Bydd dysgwyr hefyd yn gweithio mewn grwpiau i:
- ennill cymwysterau,
- datblygu sgiliau i gefnogi llwyddiant.




Cysylltwch â ni
Mae atgyfeiriadau i’r tîm yn cael eu gwneud gan ysgolion trwy eu darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.